Mae'r gwasanaeth ar gyfer gofal brys yn unig - nid ar gyfer materion meddygol arferol, pan fyddech chi fel arfer yn cael eich gweld gan eich meddyg teulu eich hun.
Os ydych chi'n teimlo'n sâl pan fydd eich meddygfa ar gau ac yn teimlo bod angen i chi weld meddyg teulu ar frys, dylech ffonio'ch Meddygfa lle byddwch chi'n cael eich ailgyfeirio at y gwasanaeth Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau.
Os oes gan y claf salwch a allai beryglu bywyd, er enghraifft, poen yn y frest, anhawster anadlu neu waedu difrifol, ffoniwch 999 ar unwaith.
A all unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Rhaid trefnu pob apwyntiad ar gyfer y gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau dros y ffôn.
Mae practisau cyffredinol yn wynebu cynnydd yn y galw yn y gaeaf.
Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud heb orfod gwneud apwyntiad yn y feddygfa.
Meddyliwch am:
Pan fyddwch yn cysylltu â'r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau bydd eich galwad yn cael ei hateb gan berson sy'n delio â'r alwad a fydd yn cofnodi eich manylion personol a'ch rheswm dros ffonio.
Bydd meddyg yn eich ffonio’n ôl i gynnal asesiad ffôn o’ch cyflwr i helpu i benderfynu pa ofal meddygol sydd ei angen arnoch, gallai hyn gynnwys:
• Mynychu canolfan Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau
• Ymweliad cartref os nodir yn glinigol
• Cyngor ar hunanofal
• Mynychu Fferyllfa neu Optometrydd
• Gwneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu eich hun
Os yw eich galwad yn argyfwng byddwch yn cael eich trosglwyddo'n uniongyrchol i'r gwasanaeth ambiwlans.
Rhaid trefnu pob apwyntiad ar gyfer y gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau dros y ffôn.
Rhif ffôn: 111
Am gymorth ychwanegol yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau:
Fferyllwyr: Gall Fferyllwyr Lleol roi cyngor arbenigol ar anhwylderau cyffredin fel peswch, annwyd a ffliw.
Optometryddion: Gall Optometryddion Lleol roi cyngor arbenigol ar broblemau llygaid a’r ffordd orau o’u trin, ac nid oes angen apwyntiad arnoch bob amser.
Galw Iechyd Cymru: Gallwch ffonio’r gwasanaeth hwn i gael cyngor gan nyrs os ydych yn teimlo’n sâl ac yn ansicr beth i’w wneud, neu i gael gwybodaeth am gyflyrau fel diabetes ac alergeddau. Gall Galw Iechyd Cymru hefyd eich helpu i ddod o hyd i'ch meddyg, fferyllydd neu ddeintydd agosaf.
Ffoniwch 0845 4647 neu ewch i www.nhsdirect.wales.nhs.uk
Os oes angen sylw meddygol brys arnoch rhwng 6.30 pm ac 8am bob dydd ac ar Ŵyl y Banc a phenwythnosau mae'r Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau yn darparu gofal. Gellir eu cyrchu trwy ffonio 111 neu 0345 46 47.
Os oes gennych broblem feddygol na all aros nes bydd y feddygfa'n agor fel mater o drefn neu Mewn Argyfyngau sy'n bygwth bywyd fel gwaedu difrifol , llewyg , anymwybodol a phoenau difrifol yn y frest : FFONIWCH 999 AR UNWAITH